Harry Reems | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Herbert John Streicher ![]() 27 Awst 1947 ![]() Y Bronx ![]() |
Bu farw | 19 Mawrth 2013 ![]() Salt Lake City ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor pornograffig, actor, actor llwyfan, actor ffilm, ysgrifennwr ![]() |
Taldra | 183 centimetr ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Hall of Fame AVN, Gwobr Hall of Fame XRCO, AVN Award for Best Actor ![]() |
Actor pornograffig o Americanwr oedd Harry Reems (ganwyd Herbert John Streicher; 27 Awst 1947 – 19 Mawrth 2013).[1] Ymddangosodd yn y ffilm Deep Throat ac fel athro yn The Devil in Miss Jones (1973). Roedd yn un o brif actorion y diwydiant pornograffig drwy gydol y 1970au a hanner cyntaf y 1980au. Ymddeolodd yn 1989.
Daeth o deulu Iddewig ond trodd yn Gristion.[2] Cafodd ei dderbyn i Brifysgol Pittsburgh ond gadawodd i ymuno gyda Marine Corps Unol Daleithiau America.[3] Wedi hynny, gadawodd i ddechrau gyrfa actio mewn theatr yn y La MaMa Experimental Theatre Club, Broadway ac yna'r New York Theater Ensemble and National Shakespeare Company.[4][5]
|date=
(help)
|accessdate=
(help)